Wedi’ ddechrau yn 2021, mae’r prosiect E-Symud yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig pobl mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru efo benthyciad beic trydanol am ddim. Yn adrodd ar flwyddyn gyntaf y prosiect, cafodd ein tîm yn yr Uned Ymchwil a Monitro (RMU) y cyfle i gydweithio ag ymchwilydd gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd i ddadansoddi data cyfweliadau o gyfranogion y prosiect.
Mae'r prosiect E-Symud wedi helpu llawer o bobl yng Nghymru i symud o gwmpas yn llesol efo benthyciad e-feic am ddim. Llun gan: photojB.
Ers i’r prosiect dechrau, rydym wedi cyfweld â phobl sydd wedi benthyg e-feiciau ac e-feiciau cargo i geisio deall yn well eu profiadau o’r benthyciad, ac e-feiciau yn gyffredinol.
Efo caniatâd cyfranogion y cyfweliadau, rhannodd ein tîm data’r cyfweliadau efo Jack Kinder, myfyriwr gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd Jack wedi’ ymddiddori yn ymchwilio e-feiciau a’u heffaith posibl ar gymunedau gwledig yng Nghymru ac allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Yn ei thesis, dadansoddodd e’r data ar E-Symud gan ddefnyddio damcaniaeth newid ymddygiad o’r enw damcaniaeth ymarfer.
Mae’r damcaniaeth yn ystyried y ffordd rydym yn ymddwyn fel mater cymhleth sydd dim yn ddibynnol yn unig ar ein cyfrwng unigol ond hefyd ar y ffordd mae’n gymdeithasau wedi’u strwythuro.
Mae’n cymryd gwneud penderfyniadau fel gweithrediad o gyfres o ymarferion cymdeithasol sydd wedi’u dylanwadu gan gyflyrau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach, yn ogystal â’n profiadau bywyd unigol.
Ìý
Cydnabod rhwystrau cymdeithasol
O ddata’r cyfweliadau â chyfranogion E-Symud, cafodd sawl rhwystr ei gydnabod yn aml gan bobl pan oeddent yn seiclo.
Cynhwysodd y rhwystrau yma:
- safon beic y cyfrannog
- tir a thirwedd
- prinder isadeiledd seiclo ymroddedig
- teimlo and oedd croeso iddynt ar ffyrdd
- barnau negyddol ar seiclo
- perygl canfyddedig
- stigma o ddefnyddwyr ffyrdd a seiclwyr eraill.
Yn aml, y rhwystrau yma yw’r rhesymau pam fod pobl hefyd yn dewis i ddefnyddio trafnidiaeth foduraidd yn lle seiclo yn ardaloedd gwledig.
Cafodd ei gydnabod hefyd mae ‘na rhwystrau at seiclo ac e-feicio sy’n effeithio ar rai grwpiau demograffig gwahanol, er enghraifft menywod neu’r henoed, yn fwy nag eraill.
Mae’r rhwystrau yma’n cynnwys:
teithiau efo llawer o arosiadau ble mae gofal plant yn gysylltiedig
maint a thrwch y beiciau, a’r ymdrech o’u symud nhw
perygl canfyddedig o rannu ffyrdd efo cerbydau moduraidd.
Goresgyn rhwystrau efo e-feiciau
Mae gan feiciau a gynorthwyir yn drydanol y gallu i oresgyn nifer o’r rhwystrau a chanfu.
Mae E-Symud wedi bod yn llwyddiannus yn lleihau’r rhwystr o flinder corfforol ac yn galluogi pobl i seiclo’n bellach ac yn amlach.
Mae wedi ymestyn hyd y cyfnod o amser mae cyfranogion hynach yn teimlo’n hyderus i seiclo, ac wedi gwella eu teimlad o annibyniaeth.
Mae’r cymorth trydanol gan e-feiciau a beiciau cargo trydanol hefyd wedi gwella cyflymiad, yn arwain at ddefnyddwyr yn teimlo’n fwy cyfforddus yn seiclo yn gyfochrog â thraffig ffyrdd.
Mae gan rai e-feiciau hyd yn oed atodiadau seddi plant, a dwedodd cyfranogion helpodd e-feiciau i wneud eu cyfrifoldebau gofal plant yn haws i gyflawni yn lle defnyddio car neu dacsi.
Mae e-feiciau cargo'n ei wneud yn bosib i bobl gadael eu ceir tu ôl a seiclo yn lle pan fod angen cludo pethau. Llun gan: John Linton.
Ymestyn y prosiect E-Symud
Mae llwyddiant y prosiect E-Symud wedi arwain at y prosiect yn cael ei ymestyn am drydedd flwyddyn.
Ond, fel cydnabu gwaith ymchwil ein tîm RMU, mae ‘na dal i fod rhai heriau efo e-feiciau sydd angen ei ddatrys.
Y peth mwyaf ar gyfer llawer o’r cyfranogion oedd y gost brynu beiciau trydanol.
Mae hyn wedi amlygu wrth i gyfnodau benthyciad y cyfranogion dod i ben ac maent yn ystyried prynu e-feic i barhau i seiclo.
Er mwyn ei wneud yn arfer mwy realistig i gynnal, rydym wedi buddsoddi mwy mewn i fodelau mwy fforddiadwy i gyfranogion ceisio ac ystyried ar gyfer y dyfodol.
Cafodd nifer o heriau eraill eu cydnabod, megis pryderon am ddiogelwch personol ac ansicrwydd o le mae defnyddwyr e-feiciau yn perthyn ar ffyrdd.
Pan mae’n dod i’n gwaith ni yn GTVÊÓƵ, rydym yn parhau i argymell bod defnyddwyr beiciau’n canfod hyfforddiant efo darparwyr awdurdodedig.
Rydym hefyd yn herio toriadau Llywodraeth y DU i deithio llesol bydd dim ond yn ei wneud yn anoddach i bobl teithio’n llesol.
Bydd gafael yn y materion yma’n helpu mwy o bobl i gerdded, olwyno, neu seiclo ar eu teithiau dyddiol.
Ìý
Dadansoddi’r data yn gydweithrediadol
Roedd y ffordd cydweithrediadol rhwng GTVÊÓƵ a Phrifysgol Caerdydd yn gyfle arbennig i sefydliad academaidd i fireinio’n ddyfnach mewn i’r data ble efallai nad oes gan GTVÊÓƵ yr adnoddau i’w wneud.
Roedd hefyd yn gyfle gwych i Jack i weithio efo data byd go iawn, a bydd dadansoddiad hynny’n cael effeithiau gwirioneddol.
Yn y diwedd, canfu’r thesis dylai E-Symud cael ei ehangu fel iddo allu cyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosib.
Cafodd e-feiciau eu dangos i fod yn fodd effeithiol o leihau’r rhwystr blinder corfforol a chynyddu’r mwynhad o seiclo.
Maent yn cynnig agweddau positif sylweddol i helpu pobl amnewid i ffwrdd o deithiau dyddiol yng ngherbydau moduraidd.
Gan ddarparu benthyciadau e-feiciau i gymaint o bobl ag sy’n bosib, gallwn helpu pobl i oresgyn eu rhwystrau i seiclo a’u cefnogi nhw i deithio’n llesol.
Mae E-Symud wedi mynd mewn i’w drydedd flwyddyn ar ôl estyniad hyd at 2024 diolch i Lywodraeth Cymru.
Ìý