Mae Cyngor Sir Fynwy am gydweithio â GTV视频 Cymru i ddarparu'r prosiect benthyca e-feiciau llwyddiannus, E-Symud, i'r Fenni. Yn wreiddiol yn brosiect peilot Llywodraeth Cymru wedi' ddarparu ar led Cymru, gall trigolion Y Fenni nawr benthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim fel iddynt brofi'r manteision yn uniongyrchol.
Gall defnyddio e-feic helpu arbed arian, cael ymarfer corff, teithio'n bellach, a mynd i'r afael â bryniau Cymru. Llun gan: photojB\GTV视频.
Yn dilyn ymlaen o lwyddiannau darparu E-Symud ar draws Cymru, mae prosiect benthyca e-feiciau GTV视频 Cymru wedi cael ei lansio yn Y Fenni.
Mae'r prosiect E-Symud, a ariennir gan Gyngor Sir Fynwy trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yn ceisio gwneud e-feiciau ac e-feiciau cargo yn fwy hygyrch i bobl ar led Cymru, gan arddangos eu dichonoldeb fel modd go iawn o drafnidiaeth gynaliadwy.
Yn siarad am lansiad y prosiect E-Symud yn Y Fenni, dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy am Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby:
"Mae'r prosiect E-Symud yn esiampl wych o sut gall gweithio mewn partneriaethau gwneud teithio llesol yn fwy hygyrch i'n trigolion.
"Mae'n fendigedig i weithio efo GTV视频 Cymru i gael darparu e-feiciau i drigolion cael benthyg."
Fel rhan o'r prosiect, gall trigolion Y Fenni benthyg e-feic neu e-feic cargo, efo'r ddau fath ar gael am fenthyciad o gyfnod o bedair wythnos, am ddim.
Gall busnesau neu fudiadau lleol benthyg naill ai e-feic neu e-feic cargo am ddim am 12 wythnos.
Gall trigolion, busnesau, a mudiadau lleol Y Fenni nawr benthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim. Llun gan: photojB\GTV视频.
Dod 芒 manteision teithio ar e-feiciau i'r Fenni
Yn trafod E-Symud yn dod i'r Fenni, dwedodd Charlie Gordon, Cydlynydd Prosiect GTV视频 Cymru:
"Rydym yn gyffrous i weithio 芒 Chyngor Sir Fynwy i ddod ag E-Symud i'r Fenni, ac i bobl cael y siawns i ddefnyddio e-feic am ddim.
"Mae 'na lwyth o fanteision i ddefnyddio e-feic - rydych yn arbed arian ar danwydd, rydych yn cael ymarfer corff, gallwch deithio'n bellach nag ar feic arferol, maent yn ei wneud yn haws i fynd lan bryniau - ac mae E-Symud yn galluogi pobl i brofi'r manteision yn uniongyrchol, am ddim.
"Mae'r prosiect nawr ar agor i bawb sy'n byw yn ardal Y Fenni, felly hoffwn annog pobl i gysylltu er mwyn cofnodi eich diddordeb."
Ar 么l ei ail flwyddyn o ddarpariaeth ar draws ardaloedd eraill yng Nghymru, adroddodd 76% o fuddiolwyr E-Symud effeithiau positif ar eu hiechyd ac adroddodd 79% effeithiau positif ar eu lles o ganlyniad i ddefnyddio e-feic.
Adroddodd pobl cafodd eu ffitrwydd ei wella, teimlon nhw llai o unigedd, a theimlon nhw'n fwy annibynnol ar 么l iddynt fenthyg e-feic.
Gwelodd busnesau a mudiadau a benthycodd e-feiciau cargo eu teithiau wythnosol mewn cerbydau gostwng gan 62%, ac adroddon nhw gostau teithio llai ac amseroedd teithiau cyflymach.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu i drafod benthyg e-feic, cysylltwch 芒 Jack Neighbour ar 07876 234112 neu e-bostiwch Jack.Neighbour@sustrans.org.uk.